Caerdydd 2–3 Brentford
Collodd Caerdydd eu gêm yn erbyn Brentford yn y Bencampwriaeth yn yr hanner cyntaf brynhawn Sadwrn.
Ildiodd y tîm cartref dair gôl cyn yr egwyl yn Stadiwm y Ddinas ac er iddynt daro nôl gyda dwy eu hunain yn yr ail gyfnod, rhy ychydig rhy hwyr oedd hi.
Dechreuodd Caerdydd yn o lew ond roeddynt ar ei hôl hi wedi deg munud pan rwydodd Alex Pritchard gydag ergyd daclus o ugain llath.
Roedd Pitchard yng nghanol yr ail hefyd hanner ffordd trwy’r hanner, daeth ei bas dreiddgar o hyd i Andre Gray y tro hwn a chododd yntau’r bêl yn gelfydd dros David Marshall yn y gôl.
Ac roedd y gêm fwy neu lai ar ben ddeuddeg munud cyn yr egywl wedi i Peleteiro Ramallo (neu Jota) osod y bêl yn daclus yn y gornel uchaf o gornel y cwrt cosbi.
Gwnaeth yr Adar Gleision gêm ohoni yn yr ail gyfnod gan sgorio o fewn tri munud o’r ail ddechrau. Craig Noone oedd y sgoriwr gyda pheniad cadarn yn dilyn gwaith da Kadeem Harris ar yr asgell chwith.
Ychwanegodd Kenwyne Jones un arall chwarter awr o’r diwedd ond daliodd Brentford eu gafael i sicrhu’r fuddugoliaeth.
Mae’r canlyniad yn cadw Caerdydd yn yr unfed safle ar ddeg yn nhabl y Bencampwriaeth.
.
Caerdydd
Tîm: Marshall, Brayford, Ecuele Manga, Turner, Fabio (John 77′), Harris, Gunnarsson, Whittingham, Noone, Le Fondre, Macheda (Jones 65′)
Goliau: Noone 48’, Jones 75’
Cerdyn Melyn: Harris 73’
.
Brentford
Tîm: Button, Odubajo, Craig, Dean, Bidwell, Douglas (Toral 45′), Peleteiro Ramallo (Dallas 73′), Pritchard, Diagouraga, Judge, Gray (Smith 82′)
Goliau: Pritchard 11’, Gray 22’, Peleteiro Ramallo 33’
Cardiau Melyn: Judge 37’, Bidwell 54’, Peleteiro Ramallo 68’, Button 78’
.
Torf: 21,784