Hull 0–1 Abertawe

Roedd gôl gynnar Ki Sung-yueng yn ddigon i gipio’r tri phwynt i Abertawe wrth iddynt ymweld â Stadiwm KC i herio Hull brynhawn Sadwrn.

Gwyrodd ergyd Jonjo Shelvey oddi ar y gŵr o Gorea ac i gefn y rhwyd ac roedd hynny’n ddigon i ennill y gêm yn erbyn un o dimau gwaethaf yr Uwch Gynghrair ar hyn o bryd.

Gwnaeth Gary Monk saith newid o’r tîm a gollodd yn erbyn Spurs yr wythnos diwethaf ond wnaeth hynny ddim effeithio’r Cymry’n ormodol wrth iddynt ddechrau’r gêm yn gryf.

Roedd elfen o lwc serch hynny’n perthyn i’r gôl agoriadol wedi chwarter awr, wrth i ergyd Shelvey o bellter daro llaw Ki a gwyro i gefn y rhwyd.

Bu bron i’r cefnwr addawol, Andrew Robinson, unioni pethau i Hull yn fuan wedyn ond tarodd ei gynnig y trawst a digon diniwed oedd y Teigrod wedi hynny.

Yr Elyrch, yn hytrach, oedd yn edrych fwyaf tebygol o sgorio ond gwastraffodd Shelvey ddau o’u cyfleoedd gorau, yn taro’r postyn gydag un.

Roedd un gôl yn ddigon i’r ymwelwyr yn y diwedd pryn bynnag ac mae’r canlyniad yn eu codi i’r wythfed safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair.

.
Hull
Tîm: McGregor, Elmohamady, Chester, Bruce (Aluko 59′), Davies (Maguire 77′), Robertson, Meyler, Livermore, Ramírez, Hernández, Jelavic (Sagbo 81′)
Cardiau Melyn: Livermore 27’, Aluko 67’
.
Abertawe
Tîm:
Fabianski, Richards (Rangel 81′), Fernández, Williams, Taylor, Ki Sung-yueng, Carroll (Emnes 57′), Dyer, Shelvey, Routledge, Gomis (Bony 76′)
Gôl: Ki Sung-yueng 15’
Cardiau Melyn: Richards 40’, Taylor 75’
.
Torf: 21, 913