Bernie Ecclestone - yn wynebu achos llys arall
Mae’r banc Almaenig, BayernLB yn mynd a’r rheolwr Fformiwla Un, Bernie Ecclestone a’i deulu i gyfraith, gan hawlio tua 345 miliwn ewro (£270m) ganddo.
Maen nhw’n dadlau bod yr arian yn ddyledus iddyn nhw wedi gwerthiant eu cyfran nhw o’r busnes Fformiwla Un.
Fe wrthododd y banc gynnig o 25 miliwn ewro (£20m) gan Bernie Ecclestone ym mis Awst eleni, wedi i lys yn Munich ollwng achos o lwgr-wobrwyo yn erbyn y Sais.
Mae BayernLB yn honni fod y cytundeb i werthu eu cyfran nhw wedi dod i ben yn 2005 oherwydd ei fod yn cynnwys “amodau oedd wedi’i gosod gan Ecclestone ac a oedd yn anfanteisiol i’r banc”.