Michael Phelps
Mae’r nofiwr Olympaidd, Michael Phelps, wedi pledio’n euog i yfed a gyrru, ac mae wedi’i ddedfrydu i orfod ateb i amodau’r Gwasanaeth Prawf am flwyddyn a hanner.
Fe gafodd yr enillydd 18 medal aur ei arestio ar Fedi 30 eleni.
Mae dogfennau cyfreithiol yn dangos fod Michael Phelps, 29, yn gadael yr Horseshoe Casino yng nghanol Baltimore pan gafodd ei stopio gan yr heddlu.
Wythnos wedi iddo gael ei arestio, fel gafodd y nofiwr ei atal rhag cystadlu am chwe mis gan gorff USA Swimming. Ym mis Hydref, fe fu’r nofiwr yn derbyn triniaeth ar gwrs chwech wythnos.
Dyma’r ail dro iddo gael ei ddal yn yfed dan ddylanwad alcohol. Fe blediodd yn euog i’r un drosedd yn 2004.