Gleision 21–9 Scarlets
Y Gleision aeth â hi yn y gyntaf o’r gemau rhwng y rhanbarthau Cymreig dros y Nadolig yn y Guinness Pro12 nos Wener.
Y Scarlets oedd yr ymwelwyr i Barc yr Arfau, ond dim ond y tîm cartref oedd yn y gêm yn yr hanner cyntaf a rhoddodd dau gais Josh Navidi fantais dda iddynt. Ac er i’r Scarlets wella wedi’r egwyl roedd y Gleision wedi gwneud digon yn y deugain agoriadol i ennill y gêm.
Hanner Cyntaf
Y Gleision oedd â’r oruchafiaeth gynnar yn y sgrym a deilliodd tri phwynt wedi saith munud o chwarae pan drosodd Gareth Anscombe bwyntiau cyntaf y gêm.
Ychwanegodd y maswr cartref gic gosb arall yn fuan wedyn wrth i’r Gleision reoli’r chwarter agoriadol.
Daeth y cais cyntaf wedi deunaw munud pan hyrddiodd Navidi dros y llinell yn dilyn sgrym bump gref gan weddill y pac, 13-0 wedi trosiad Anscombe hanner ffordd trwy’r hanner.
Dangosodd y Scarlets ambell fflach wedi hynny ac fe gaeodd dwy gic gosb Rhys Priestland y bwlch ar y sgôr-fwrdd, ond y Gleision orffennodd yr hanner gryfaf gyda Navidi yn ei chanol hi eto.
Yn chwarae fel wythwr ar y noson, Navidi gafodd ail gais y tîm cartref hefyd a chais digon tebyg i’r cyntaf ydoedd. Lein bump yn hytrach na sgrym oedd hi’r tro hwn ond yr un oedd y canlyniad – pac y Gleision yn hyrddio drosodd a Navidi’n tirio.
Ac er i Anscome fethu’r trosiad canlynol, fe lwyddodd gyda chic gosb ychydig funudau’n ddiweddarach, 21-6 ar yr egwyl.
Ail Hanner
Dechreuodd yr ail hanner gyda’r ddau glo, Filo Paulo a Johan Snyman, yn taflu dyrnau ac yn derbyn cerdyn melyn yr un.
Roedd y Scarlets dipyn gwell yn yr ail gyfnod a rhoddodd Priestland obaith iddynt gyda chic gosb gynnar.
Crëodd Bois y Sosban ambell hanner cyfle am gais hefyd, ond diolch i gyfuniad o gamgymeriadau’r Scarlets ac amddiffyn trefnus y Gleision, fe lwyddodd y tîm cartref i gadw eu gafael ar y fantais hyd y diwedd.
Mae’r ddau dîm yn aros yn yr un safleoedd yn nhabl y Pro12 r gwaethaf y canlyniad, Gleision yn nawfed a’r Scarlets yn seithfed, ond mae’r bwlch rhyngthynt bellach i lawr i chwe phwynt.
.
Gleision
Ceisiau: Josh Navidi 18’, 29’
Trosiad: Gareth Anscombe 20’
Ciciau Cosb: Gareth Anscombe 7’, 12’, 33’
Cardiau Melyn: Filo Paulo 42’, Josh Navidi 75’
.
Scarlets
Ciciau Cosb: Rhys Priestland 23’, 26’, 50’
Cerdyn Melyn: Johan Snyman 42’