Eikrem yn arwyddo
Mae Caerdydd wedi cadarnhau eu bod wedi cytuno i ddiddymu cytundeb y chwaraewr canol cae Magnus Wolff Eikrem.
Cafodd Eikrem ei arwyddo gan y cyn reolwr Ole Gunnar Solskjaer ym mis Ionawr eleni, wrth iddo geisio gosod ei stamp ar y garfan yn fuan ar ôl cymryd y swydd.
Ond prin y cafodd y chwaraewr 24 oed gyfle i greu argraff yn ei 11 mis gyda’r clwb er iddo gostio £2m, gan chwarae dim ond naw gwaith yn y gynghrair.
Dim gêm
Cafodd Solskjaer y sac ym mis Hydref ac, ers i’r rheolwr newydd Russell Slade ddod i’r clwb, dyw Eikrem heb gael gêm.
Eikrem yw’r ail chwaraewr i gael ei gytundeb wedi ei ddiddymu gan y clwb ers i Slade gael ei benodi yn rheolwr.
Yn gynharach yn y mis fe gadarnhaodd Caerdydd eu bod wedi diddymu cytundeb Juan Cala, un arall o’r chwaraewyr a arwyddodd Solskjaer ym mis Ionawr.