Faletau
Taulupe Faletau
Mae’r Dreigiau wedi gwneud tri newid i’w tîm ar gyfer y gêm yn erbyn Zebre ar Rodney Parade dydd Sul, gan gynnwys croesawu Taulupe Faletau yn ôl i ddechrau am y tro cynta’ ers gêmau rhyngwladol yr hydref.
Bydd y canolwr Jack Dixon yn dychwelyd i’r tîm am y tro cyntaf ers anafu ei arddwrn yn erbyn y Gweilch ym mis Medi.
Mae dau newid ymysg y blaenwyr hefyd, gyda’r clo o Dde Affrica Rynard Lyndman yn cymryd y gapteiniaeth, yn ogystal â chroesawu Faletau.
Defnyddio Cwpan Prydain ac Iwerddon
Roedd Jack Dixon eisoes wedi gwella o’i anaf yr wythnos diwethaf, ond fe benderfynodd cyfarwyddwr rygbi’r Dreigiau Lyn Jones beidio â’i ddewis ar gyfer y grasfa dros Fleiddiaid Bwcarest.
Yn hytrach fe chwaraeodd Dixon dros Cross Keys yng Nghwpan Prydain ac Iwerddon yn erbyn Doncaster, er mwyn ceisio adennill rhywfaint o ffitrwydd.
Ac mae Lyn Jones yn hyderus ei fod yn barod i chwarae rygbi rhanbarthol unwaith eto nawr.
“Mae Cwpan Prydain ac Iwerddon yn rhan o ddatblygiad chwaraewyr rhanbarthol a fi’n gyfforddus yn ei ddefnyddio fel rhan o hynny,” meddai Lyn Jones.
“Mae’n rhaid sicrhau ein bod ni’n defnyddio ein gilydd wrth ddatblygu chwaraewyr newydd allweddol.”
Tîm y Dreigiau: Tom Prydie, Matthew Pewtner, Ross Wardle, Jack Dixon, Hallam Amos, Jason Tovey, Jonathan Evans; Phil Price, T. Rhys Thomas, Brok Harris, Andrew Coombs, Rynard Landman (capt), James Thomas, Nic Cudd, Taulupe Faletau
Eilyddion: Elliot Dee, Owen Evans, Lloyd Fairbrother, Cory Hill, Lewis Evans, Richie Rees, Dorian Jones, Tyler Morgan