Dan Lydiate
Mae disgwyl y bydd Dan Lydiate yn chwarae dros y Gweilch am y tro cyntaf dydd Sadwrn pan fydd Ulster yn ymweld â Stadiwm Liberty.

Cafodd blaenasgellwr Cymru ei enwi ar fainc y Gweilch ar gyfer y gêm, gyda James King yn cadw’r crys rhif chwech.

Yn ddiweddar fe arwyddodd Lydiate gytundeb deuol gyda’r Gweilch ac Undeb Rygbi Cymru, ar ôl gadael Racing Metro ym mis Hydref.

Fe yw’r ail chwaraewr i arwyddo cytundeb o’r fath, ar ôl i gapten Sam Warburton wneud yr un peth gyda’r Gleision.

Dim newid

Does dim newid i dîm y Gweilch o’r pymtheg ddechreuodd yn erbyn Racing Metro yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop y penwythnos diwethaf.

Lydiate yw’r unig newid ar y fainc hefyd, wrth i’r prif hyfforddwr Steve Tandy gadw ffydd yn ei dîm.

Mae’n golygu fod Hanno Dirksen yn dechrau unwaith eto ar yr asgell, wedi i’r gŵr o Dde Affrica wella o anaf i ddychwelyd i’r tîm yn erbyn Racing.

Alun Wyn Jones fydd yn arwain y tîm o’r ail reng fel capten unwaith eto.

Tîm y Gweilch: Dan Evans, Hanno Dirksen, Ashley Beck, Josh Matavesi, Eli Walker, Dan Biggar, Rhys Webb; Marc Thomas, Scott Baldwin, Dmitri Arhip, Rynier Bernardo, Alun Wyn Jones (capt), James King, Justin Tipuric, Tyler Ardron

Eilyddion: Sam Parry, Gareth Thomas, Daniel Suter, Dan Lydiate, Sam Lewis, Martin Roberts, Sam Davies, Andrew Bishop