Fe fydd Caerdydd yn croesawu Brentford i’r brifddinas yfory wrth iddyn nhw geisio taro nôl ar ôl colli yn erbyn Bournemouth.
Mae tîm i brifddinas bum pwynt i ffwrdd o safleoedd y gemau ail gyfle, yn 11fed yn y tabl.
Ond mae Brentford wedi synnu pawb yn y Bencampwriaeth eleni er mai newydd gael eu dyrchafu maen nhw, ac mae’r tîm o gyrion Llundain yn bumed.
Mae Caerdydd ar rediad da o gemau cartref, ar ôl ennill pump o’u chwech diwethaf.
Ond ar ôl gêm gyfartal ddi-sgôr siomedig o flaen eu cefnogwyr cartref y tro diwethaf, dyw’r amddiffynnwr Matthew Connolly ddim yn cymryd unrhyw beth yn ganiataol.
“Mae cefnogwyr yn talu eu harian ac eisiau gweld gêm dda,” meddai Connolly. “Doedd e ddim yn dda yn erbyn Rotherham a does dim gwadu hynny.
“Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni’n cadw safon y perfformiad mor uchel â phosib.”