Mae dyn yn cario cyllell wedi ymosod ar swyddfa’r heddlu, ac wedi cael ei ladd gan un o’r plismyn, yn ninas Tours yng nghanolbarth Ffrainc.
Roedd y dyn wedi mynd i mewn i’r orsaf yn ardal Joue-les-Tours ac “ymosod yn giaidd” ar swyddog o’r heddlu, yn ôl yr awdurdodau.
Mae Swyddog Materion Cartref llywodraeth Ffrainc, Bernard Cazeneuve, wedi canmol proffesiynoldeb yr heddlu yn wyneb yr hyn ddigwyddodd. Un o’r heddweision hynny saethodd y dyn yn farw.
Mae uned gwrth-derfysgaeth wedi’i galw i ymchwilio i’r digwyddiad.