Awyren Pan-Am 103 wedi syrthio i'r ddaear yn 1988
Fe fydd y 270 o bobol a laddwyd pan ffrwydrodd awyren uwchben Lockerbie yn yr Alban 26 mlynedd yn ôl i heddiw, yn cael eu cofio mewn gwasanaeth coffa yn yr Unol Daleithiau.

Fe fydd swyddogion cyfreithiol o’r Alban ymysg y rheiny fydd yn mynd i’r gwasanaeth ym Mynwent Arlington yn Washington i nodi trychineb ar Ragfyr 21, 1988.

Prif Erlynydd yr Alban, yr Arglwydd Frank Mulholland, fydd yn arwain y gynrychiolaeth yno.

Ddoe, roedd e wedi tanlinellu ei gred mai’r unig ddyn i gael ei ddwyn i gyfri’ am osod y bom ar yr awyren Pan-Am 103, Abdelbaset al-Megrahi, oedd yn euog o’r drosedd. Mae hefyd wedi addo y bydd yn dod o hyd i’r rheiny oedd yn gweithio gydag al-Megrahi.