Chwilio am y gweithwyr caeth
Mae gweithwyr achub wedi dod o hyd i 12 o weithwyr a gafodd eu dal yn gaeth am fwy na thridiau mewn twnnel yn Fietnam.

Mae’r awdurdodau yn nhalaith Lam Dong yn dweud fod angen triniaeth feddygol ar y 11 dyn a’r un wraig, ond maen nhw mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.

Fe gafodd y gweithwyr eu dal yn gaeth fore Mawrth, pan gwympodd rhan o’r twnnel wrth iddyn nhw roi concrid ar ei nenfwd. Fe ddriliodd achubwyr dwll i lawr atyn nhw er mwyn caniatau iddyn nhw gael aer a bwyd, tra bod peirianwyr a glowyr yn cloddio twnnel newydd i’w cyrraedd.

Fe ddechreuodd y gwaith ar adeiladu’r pwerdy heidro-electrig yn 2003, ond mae’r cwmni wedi cael cyfres o broblemau sydd wedi creu oedi mawr.