Madrid
Mae heddlu Sbaen wedi bod yn archwilio pencadlys plaid geidwadol llywodraeth Sbaen am ffrwydron, wedi i ddyn yrru car i mewn i fynedfa’r swyddfa yng nghanol dinas Madrid ddoe.

Chafodd neb ei anafu yn y digwyddiad o flaen pencadlys Y Blaid Boblogaidd ben bore Gwener, ac fe gafodd gyrrwr y car ei arestio.

Ers hynny, mae arbenigwyr difa bomiau wedi bod yn chwilio’r ardal o gwmpas y swyddfa yn Stryd Genofa. Roedd dau silindr o nwy y tu mewn i’r car, ac mae’r heddlu hefyd yn dadansoddi deunyddiau eraill ganfuwyd yn y cerbyd.

Ar hyn o bryd, mae’r awdurdodau o’r farn mai gweithredu’n annibynnol a wnaeth gyrrwr y car, ac nad oes lle i gredu fod dreifio i mewn i ddrws ffrynt y swyddfa yn rhan o weithred derfysgol.

Ond fe achosodd y digwyddiad anhrefn i draffig yn yr ardal, gan fod y stryd wedi’i chau am bedair awr.