Baghdad
Mae’r awdurdodau yn Irac wedi cadarnhau i 11 o bobol gael eu lladd mewn ffrwydriadau yn y brifddinas, Baghdad, ddoe.
Fe ffrwydrodd y bom fwya’ ger marchnad yn ardal Shaab yn y ddinas, gan ladd pedwar o bobol ac anafu naw o bobol eraill.
Yn ddiweddarach, fe ffrwydrodd dyfais ar stryd brysur yn nwyrain Baghdad, gan ladd dau o bobol ac anafu wyth o bobol eraill. Yng nghanol y ddinas, fe ffrwydrodd bom ger siop drin ceir, gan ladd dau o bobol.
Mae’r heddlu’n dweud fod ffrwydriad arall ger ardal ddiwydiannol Baiyaa yng ngorllewin y brifddinas wedi lladd tri ac anafu saith.