Mae gwraig wedi’i harestio yn Awstralia ar amheuaeth o lofruddiaeth, yn dilyn marwolaeth wyth o blant yn ei chartre’.
Mae Heddlu Queensland wedi cadarnhau fod y ddynes 37 mlwydd oed dan wyliadwraeth mewn ysbyty yn ninas Cairns yng ngogledd y wlad.
Mae hi’n fam i saith o’r plant a gafwyd yn farw yn y ty. Ei nith oedd yr wythfed.
Dyw’r heddlu ddim eto wedi dweud sut y bu farw’r plant. Ond maen nhw’n archwilio nifer o gyllyll a ganfuwyd yn y ty.
Fe gafodd y wraig ei hun ei chanfod wedi’i thrywanu yn ei brest. Mae’r heddlu’n dweud ei bod yn siarad yn synhwyrol gyda phlismyn.
Roedd y plant yn amrywio o ran oed, o 18 mis i 14 blwydd oed.