Mae Undeb Rygbi Cymru wedi dechrau’r broses o recriwtio dau gyfarwyddwr newydd ar gyfer y bwrdd rheoli – ac mae’r briff yn awgrymu y gallai menyw gael ei phenodi am y tro cynta’ erioed.
Mae’r Undeb yn chwilio am “unigolion gyda’r hygrededd, yr annibyniaeth barn a’r profiad eang” sydd ei angen i weithredu ar fwrdd proffil uchel.
Fe ddaw’r penderfyniad i hysbysebu am ddau gyfarwyddwr newydd yn dilyn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Undeb ym mis Hydref eleni, pan benderfynwyd ar gyfres o newidiadau ynglyn a sut y mae’r Undeb yn cael ei redeg.
Roedd hynny’n dilyn adolygiad dwy flynedd o strwythur yr Undeb gan y Barnwr Uchel Lys, Syr Robert Owen.
Fe fydd y ddau gyfarwyddwr newydd yn ymuno gyda 18 cyfarwyddwr presennol – ac mae 17 o’r rheiny’n cael eu penodi’n uniongyrchol gan glybiau rygbi sy’n aelodau o’r Undeb.
Y ’disgrifiad swydd’
Mae’r briff ar gyfer y ddwy rol newydd yn dweud fod yr Undeb yn chwilio am “ymgeiswyr gyda phrofiad ar lefel uwch” o fewn sefydliadau masnachol.
Mae “arweinyddiaeth fusnes wrth galon gofynion yr Undeb” meddai wedyn, er y gallai profiad ym meysydd y gyfraith neu mewn rheolaeth ariannol gael ei ystyried hefyd.
Ac mae’n chwilio am “amrywiaeth” – yn cynnwys menywod.
“Mae bwrdd Undeb Rygbi Cymru yn ymwybodol iawn o ba mor werthfawr yw amrywiaeth,” meddai’r briff.
“Tra bod amrywiaeth y rhywiau yn ystyriaeth hanfodol, mae gan y cwmni hefyd ddiddordeb mewn unigolion y gallai eu hoedran neu eu profiad bywyd ddod a phersbectif newydd i drafodaethau’r bwrdd.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ydi dydd Sadwrn, Ionawr 31, 2015.