Vladimir Putin
Mae Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, wedi dweud y bydd yr economi rhyngwladol yn gwella ac y bydd y rwbl, arian y wlad, yn sefydlogi.
Er hyn, fe ddywedodd ei fod yn disgwyl i’r argyfwng economaidd presennol bara am ddwy flynedd.
Mae Rwsia yn agos at ddirwasgiad yn sgil y gostyngiad mewn prisiau olew a’r sancsiynau sydd wedi eu gosod arni oherwydd yr anghydfod yn yr Wcráin.
Daeth sylwadau Putin yn ei gynhadledd flynyddol i’r wasg, lle gwnaeth o hefyd roi’r bai ar “ffactorau allanol” am fethiant y rwbl:
“Mae’r sefyllfa bresennol wedi cael ei heffeithio gan ffactorau allanol, ond mae’n werth nodi nad ydym ni wedi gwneud yr hyn yr ydym wedi ei fwriadu gwneud er mwyn amrywio ein heconomi,” meddai.
Ond fe ychwanegodd ei fod yn credu y dylai’r argyfwng greu cyfleoedd o fewn yr economi a lleihau’r ddibyniaeth ar yr arian sy’n cael ei gynhyrchu gan olew a nwy.
Yn ôl Putin, mae cronfa ariannol wrth gefn y wlad, sydd tua £270 biliwn, yn ddigon i gadw’r economi yn sefydlog am y tro.