Mae Llys Cyfiawnder Ewrop wedi dweud y gallai rhai pobol sy’n ordew gael eu hystyried yn anabl o dan drefn newydd.
Daw’r sylwadau yn dilyn achos gofalwr plant o Ddenmarc nad oedd yn gallu cau carrai ei esgidiau gan ei fod mor ordew ac a gollodd ei swydd.
Yn ôl y Llys Cyfiawnder, fe allai rhywun gordew gael ei ystyried yn anabl pe bai’n “niweidio cyfranogiad llawn ac effeithiol y person dan sylw mewn bywyd proffesiynol ar sail cydraddoldeb â gweithwyr eraill”.
Fe allai olygu y bydd rhaid i gyflogwyr newid eu dulliau o ymdrin â staff sy’n ordew, a chynnig mwy o gefnogaeth iddyn nhw.
Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae rhywun yn ordew os yw eu BMI yn fwy na 30.
Gallai’r dulliau newydd o ymdrin â phobol ordew gynnwys cynnig llefydd parcio mwy o faint a newid seddau, desgiau ac allanfeydd tân.
Mae’r Fforwm Gordewdra Cenedlaethol wedi dweud bod y mater wedi achosi penbleth i gyflogwyr, ac y gallai arwain at ffrae rhwng cydweithwyr.