Mae nifer y bobol sy’n gweithio’n rhan amser yng Nghymru wedi codi 28%, sef 18,000, ers haf 2008, yn ôl ffigyrau diweddaraf Cyngres yr Undebau Llafur (TUC).
Dros yr un cyfnod, mae nifer y bobol sy’n cael eu cyflogi ar gontractau parhaol yng Nghymru wedi gostwng mwy na 2% (25,000).
Daw wedi i ffigyrau diweithdra ar gyfer Cymru ddangos bod nifer y bobl sy’n ddiwaith yng Nghymru wedi codi o 6.6% i 7.1%.
Mae’r TUC o’r farn bod y ffigyrau yn dangos nad oes digon o swyddi llawn amser yn cael eu creu yng Nghymru a bod pobol yn cael eu gorfodi i dderbyn swyddi rhan amser.
“Nid yw ein heconomi yn creu digon o swyddi llawn amser i gyrraedd y galw ar draws y wlad,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Martin Mansfield.
“Heb swyddi parhaol sy’n talu cyflogau da, fe fydd mwy o gartrefi ledled Cymru yn parhau i gael deupen llinyn ynghyd.”