Ynyr Williams, Dirprwy Olygydd newydd BBC Radio Cymru
Mae Radio Cymru wedi cyhoeddi bod Ynyr Williams wedi cael ei benodi’n Ddirprwy Olygydd newydd yr orsaf.

Bu Williams yn gynhyrchydd Pobol y Cwm ers saith mlynedd, ac roedd yn gyfrifol am nifer o gerrig milltir yn hanes y gyfres, gan gynnwys symud o Landaf i Borth y Rhath.

Bydd yn dechrau ar ei waith yn y flwyddyn newydd.

Yn dilyn y penodiad, dywedodd Golygydd Radio Cymru, Betsan Powys: “Rwy’n falch iawn o groesawu Ynyr i dîm Radio Cymru.

“Bydd rôl y Dirprwy Olygydd yn ganolog wrth i ni adeiladu a datblygu arweinyddiaeth greadigol yr orsaf a sicrhau cefnogaeth gref i’n timau cynhyrchu.

“Safonau uchel i’n gwrandawyr yw’r nod bob amser a bydd yr orsaf yn elwa o brofiad Ynyr.”