Ysgrifennydd Cartref, Theresa May
Mae’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May wedi cyfyngu’r cyfnod y gall rhywun fod ar fechnïaeth yr heddlu i 28 diwrnod.

Mynegodd bryder y gall ymchwiliadau’r heddlu lusgo am fisoedd neu flynyddoedd.

Wrth gyhoeddi’r drefn newydd, dywedodd nad yw’n “iawn y gall pobol dreulio misoedd neu flynyddoedd hyd yn oed ar fechnïaeth cyn cael eu cyhuddo”.

Yn ôl y cynlluniau newydd, dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y bydd modd i’r heddlu ymestyn y cyfnod o 28 diwrnod, a hynny drwy wneud cais i’r llys ynadon.

Dywedodd Theresa May: “Rwy’n credu bod angen cyfnod statudol yn ei le er mwyn sicrhau nad yw pobol yn treulio misoedd neu hyd yn oed flynyddoedd ar fechnïaeth, heb fod cyhuddiadau’n cael eu dwyn yn y pen draw.”