Madeleine McCann
Bydd dau o newyddiadurwyr Sky News yn rhoi tystiolaeth yn ystod cwest i farwolaeth dynes oedd wedi sarhau rhieni Madeleine McCann ar wefannau cymdeithasol.

Cafwyd hyd i gorff Brenda Leyland, 63, mewn gwesty yn Swydd Gaerlŷr, ddau ddiwrnod yn unig wedi iddi gael ei holi gan raglen newyddion am yr honiadau.

Ni fydd unrhyw un yn wynebu cyhuddiadau ynghylch ei marwolaeth.

Ond fe fydd y Gohebydd Trosedd, Martin Brunt a’r Pennaeth Casglu Newyddion, Jonathan Levy yn rhoi tystiolaeth.

Fe fydd y cwest, sy’n dechrau ar Fawrth 20, hefyd yn clywed gan yr heddlu, tocsicolegydd a meddyg.

Mae Heddlu Swydd Gaerlŷr eisoes wedi cwblhau eu hymchwiliad i’w marwolaeth.

Roedd Brenda Leyland wedi cyhoeddi miloedd o negeseuon ar wefannau cymdeithasol yn ymosod ar Gerry a Kate McCann am ddiflaniad eu merch yn 2007.