Mae diffoddwyr tân yn ne Cymru wedi ennill apêl yn erbyn penderfyniad Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i leihau hyd pecyn iawndal o bum mlynedd i dair blynedd.

Derbyniodd y gweithwyr yr iawndal o ganlyniad i israddio gorsaf dân Y Bontfaen.

Yn ôl amodau cytundeb rhwng y gwasanaeth tân ac Undeb y Brigadau Tân (FBU), mae gan weithwyr yr hawl i dderbyn iawndal dros gyfnod o bum mlynedd er mwyn digolledi gweithwyr am gostau teithio a cholli cyflogau.

Dywedodd llefarydd ar ran yr undeb fod “hon yn fuddugoliaeth hyfryd” i’r gwasanaeth tân cyfan.

Yr orsaf yn Y Bontfaen oedd yr olaf i gael ei his-raddio fel rhan o Gynllun Lleihau Risg Gwasanaethau Tân ac Achub De Cymru.

Gwnaeth panel yr apêl wyrdroi penderfyniad gwrandawiad blaenorol, gan ddweud bod y gweithwyr wedi cael eu trin yn annheg.

O ganlyniad i’r penderfyniad, bydd y gweithwyr yn derbyn taliadau am ddwy flynedd ychwanegol.