Canolfan Pontio ym Mangor
Mae Aelod Cynulliad wedi galw am wahardd y cwmni sy’n adeiladu canolfan Pontio ym Mangor rhag cystadlu am gontractau arian cyhoeddus eraill yng Nghymru ar hyn o bryd.

Daw hyn ar ôl i ddyddiad cwblhau’r ganolfan gwerth tua £48 miliwn lithro bedwar mis ymhellach na’r amserlen estynedig.

Yn wreiddiol roedd bwriad i agor y ganolfan yn 2012 ac roedd y Theatr Genedlaethol wedi cychwyn ymarfer ar gyfer y cynhyrchiad, Chwalfa, oedd i fod i gael ei lwyfannu ym mis Hydref eleni.

Ond bu’n rhaid canslo’r cynhyrchiad, ynghyd a gala fawreddog gyda’r canwr opera Bryn Terfel am nad oedd yr adeiladwyr yn medru cwblhau’r gwaith.

Galliford Try Services, perchnogion Grŵp Miller, yw’r cwmni adeiladu dan sylw.

‘Twyllo’r cyhoedd’

Mewn llythyr at y Gweinidog Cyllid Jane Hutt, dywed Alun Ffred Jones fod yr oedi yn tanseilio hyder y cyhoedd ac enw da’r Brifysgol.

Yn y llythyr dywedodd Alun Ffred Jones, AC Arfon:

“Dw i wedi cael ar ddeall yn ddiweddar fod y rhaglen waith wedi llithro bedwar mis ymhellach tu hwnt i’r amserlen estynedig y cytunwyd arni. Adroddir hefyd fod Galliford Try, a brynodd Miller, y contractwr gwreiddiol, wedi camarwain y Brifysgol ynglŷn â’r gweithwyr ychwanegol yr oedan nhw’n eu honni oedd wedi eu gosod ar y safle.

“Mae’r cyhoedd, sy’n cyllido’r prosiect pwysig hwn, yn cael eu twyllo gan y cwmni aneffeithiol ac amhroffesiynol hwn.

“Dw i’n galw ar Lywodraeth Cymru i rwystro Galliford Try rhag bidio am unrhyw brosiect yng Nghymru sy’n derbyn arian cyhoeddus nes y byddan nhw’n profi eu bod nhw’n gwmni y gellir ymddiried ynddyn nhw gan y sector gyhoeddus, ac yn bwysicach gan y cyhoedd eu hunain.”

Mae Pontio a Phrifysgol Bangor wedi dweud na fyddan nhw’n gwneud sylw ar y mater.

‘Hyderus’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

“Nid yw oedi yn y broses adeiladu yn beth anghyffredin mewn datblygiadau seilwaith mawr, ac ry’n ni’n hyderus na fydd hyn yn effeithio ar y dylanwad y bydd y datblygiad hwn yn ei gael yn y tymor hir, nac ar y nod cyffredinol o ddyfarnu cyllid Llywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.

“Ry’n ni’n dal mewn cysylltiad agos â Phrifysgol Bangor ac fe fyddwn ni’n parhau i’w cefnogi fel bod modd i’r prosiect gael ei gwblhau cyn gynted â phosib.”

‘Ymrwymedig’

Wrth ymateb i’r llythyr mae’r cwmni adeiladu Galliford Try wedi dweud eu bod “yn parhau yn ymrwymedig i gyd-weithio gyda Phrifysgol Bangor a’r holl rhanddeiliaid i gyrraedd terfyn llwyddiannus i’r prosiect mawreddog hwn.”