Afghanistan
Mae’r Taliban wedi lladd o leiaf 12 o weithwyr a oedd yn clirio ffrwydron tir yn Afghanistan, meddai’r heddlu.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu, Farid Ahmad Obaid bod yr ymosodiad wedi digwydd heddiw yn nhalaith Helmand.
Ychwanegodd bod milwyr Afghanistan yn brwydro aelodau o’r Taliban oedd wedi ymosod ar y gweithwyr.
Mae’n debyg mai’r cwmni oedd yn gweithio ar y prosiect oedd Star Link, a dywedodd Farid Ahmad Obaid bod 12 o weithwyr wedi cael eu hanafu.
Mae cwmnïau sy’n gweithio ar brosiectau i glirio’r ffrwydron tir yn aml yn cael eu targedu gan y Taliban a gwrthryfelwyr eraill yn y wlad.