Mae dynion arfog wedi rhyddhau mwy na 200 o garcharorion yn Nigeria.
Mae’r heddlu wedi cadarnhau eu bod nhwthau wedi dal 10 o’r dynion wrth iddyn nhw geisio dianc o garchar yn ardal Tunga yng nghanolbarth y wlad.
Ymosodiad ddoe oedd y trydydd o fewn deufis yn Nigeria. Er eu bod nhw’n ddigwyddiadau cyffredin, dim ond canran fechan o’r rheiny sy’n dianc y mae’r heddlu’n llwyddo i’w dal bob tro.
Fe dorrodd mwy na 300 o garcharorion allan o garchar yn ne-orllewin Ekiti ar Ragfyr 1, tra bod 144 wedi dianc o garchar yn nhalaith Kogi ar Dachwedd 3. Yn y ddau achos, fe ddaeth ymosodwyr a bomio’r carchardai cyn bod y dynion yn gallu dianc.
Mae’r ddau ymosodiad cynta’n cael eu beio ar y grwp Islamaidd eithafol, Boko Haram.