Mae cyn-Brif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn sefyll am sedd yn San Steffan yn Etholiad Cyffredinol fis Mai nesa’.

A heddiw, wrth siarad gyda’r wasg, cyhoeddodd mai yn sedd Gordon yn Swydd Aberdeen y bydd yn ymladd i gael ei ethol yn Aelod Seneddol.

“Mae yna obaith y gall yr Alban ennill grym go iawn os y medrwn ni ennill nifer sylweddol o seddau yn San Steffan,” meddai.

“Os na allwn ni ennill grym go iawn, mae’r Alban yn wynebu’r anobaith a’r duwch o fwy o doriadau.

“Yr hyn sydd wedi fy nharo i yn fwy na dim arall,” meddai Alex Salmond, “yw fod pobol yr Alban wedi gwrthod rhoi’r gorau i obeithio yn yr wythnosau ers y Refferendwm ar Annibyniaeth.

“Felly, i’r rheiny bleidleisiodd ‘Ie’ ar Fedi 18, mae yna obaith o hyd am newid go iawn. Ac i’r rheiny bleidleisiodd ‘Na’, mae yna deimlad cry’ y dylai’r addewidion a wnaed gan wleidyddion San Steffan gael eu hanrhydeddu.

“Gyda hyn i gyd yn ffrwtian, dw i wedi penderfynu ei bod hi’n amhosib i mi sefyll o’r neilltu’n llwyr. Dyna pam y bydda’ i’n sefyll fel ymgeisydd yr SNP yn etholaeth Gordon.”