Mae Llysgenhadaeth Prydain yng Nghairo wedi ei chau, am resymau diogelwch.

Mae swyddogion a staff y llysgenhadaeth ym mhrifddinas Yr Aifft wrthi’n cydweithio gyda’r awdurdodau yn y wlad er mwyn dod o hyd i ffordd o allu parhau i gynnig gwasanaeth cyhoeddus. Ond yn y cyfamser, mae’r Llysgennad wedi bod ar wefan gymdeithasol Twitter yn egluro pam fod y swyddfeydd wedi’u cau.

“Rydyn ni wedi cau’r swyddfa am resymau diogelwch,” meddai John Casson. “Ar draws y byd, mae yna gynnydd yn y risg y gallai Prydeinwyr gael eu targedu gan uniongolion neu grwpiau terfysgol sy’n cael eu gyrru gan yr ymladd yn Irac a Syria.

“Mae’n rhaid bod yn wyliadwrus. Mae terfysgwyr yn dal i gynllwynio ymosodiadau yn Yr Aifft.”

Mae datganiad pellach gan y Swyddfa Dramor yn erfyn ar i bobol “beidio â dod i adeilad y Llysgenhadaeth”, ond mae swyddfa’r Cwnsler Cyffredinol yn ninas Alexandria yng ngogledd Yr Aifft yn gweithredu fel arfer.