Mae beth bynnag naw o bobol wedi cael eu lladd, wedi i wrthryfelwyr ymosod ar swyddfa heddlu mewn pentre’ yng ngogledd Irac.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar doriad gwawr heddiw, gyda hunanfomiwr yn ffrwydro dyfais mewn car ac yn chwalu’r muriau sy’n amgylchynu’r adeilad ym mhentre’ Tarmiyah.
Wedyn, fe ddaeth gwrthryfelwyr arfog i mewn, gan ladd pump o blismyn a phedwar o bobol gyffredin. Fe gafodd 11 o bobol eraill eu hanafu.
Mae Tarmiyah rhyw 30 milltir i’r gogledd o brifddinas Irac, Baghdad.