Benjamin Netanyahu
Mae prif weinidog Israel wedi diswyddo dau aelod o’i gabinet, sy’n awgrymu bod disgwyl cyhoeddiad am etholiad cynnar.
Dywedodd llefarydd o swyddfa Benjamin Netanyahu ei fod wedi diswyddo’r gweinidog cyllid Yair Lapid a’r gweinidog cyfiawnder Tip Livni.
Mae rhwyg wedi ymddangos o fewn y llywodraeth glymblaid yn ddiweddar ac mae Yair Lapid a Tzipi Livni wedi bod yn feirniadol iawn o’r prif weinidog.
Mae disgwyl i Benjamin Netanyahu wneud cyhoeddiad yn ddiweddarach heddiw am ei fwriad i alw etholiad, dwy flynedd yn gynt na’r disgwyl.