Hong Kong
Mae trefniadau ar gyfer taith gan Aelodau Seneddol i Hong Kong yn y fantol oherwydd mae’n ymddangos na fydd China yn caniatáu iddyn nhw fynd yno.

Mae llysgenhadaeth China wedi rhybuddio cadeirydd y Pwyllgor Materion Tramor, Syr Richard Ottaway, na fydd yr aelodau’n cael mynediad i’r gyn-dalaith Brydeinig.

Roedd aelodau’r pwyllgor wedi bwriadu ymweld â Hong Kong fel rhan o ymchwiliad i’r berthynas gyda Phrydain 30 mlynedd ar ôl y datganiad ar y cyd a arweiniodd at drosglwyddo’r dalaith yn ôl i China yn 1997.

Mae hyn yn digwydd yng nghanol protestiadau cynyddol gan ymgyrchwyr dros ddemocratiaeth yn Hong Kong sy’n mynnu’r hawl i ddewis eu harweinwyr eu hunain heb ymyrraeth o Beijing.

Dywed Syr Richard Ottaway bydd y bydd yn pwyso am ddadl frys yn Nhŷ’r Cyffredin ar y mater.

“Dw i wedi cael fy hysbysu gan lysgenhadaeth China na fyddwn ni’n cael mynediad os ceisiwn deithio i Hong Kong,” meddai.

“Rydym yn bwyllgor o Aelodau Seneddol etholedig o wlad ddemocrataidd sy’n dymuno craffu ar waith diplomyddol Prydain yn Hong Kong.

“Mae llywodraeth China yn mynd ati’n fwriadol i greu anghydfod drwy wrthod mynediad i ni wneud ein gwaith.”