Fe fydd galwadau am reolaeth dros isafswm cyflog a thros lwfansau personol treth incwm yn rhan allweddol o ymgyrch yr SNP yn yr etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf.
Mae plaid Nicola Sturgeon yn benderfynol o ddefnyddio’r etholiad fel llwyfan i bwyso am gryfhau argymhellion Comisiwn Smith am fwy o bwerau i’r Alban.
Er bod yr SNP wedi cyfrannu at adroddiad yr Arglwydd Smith o Kelvin, maen nhw o’r farn y byddai canlyniad cryf yn yr etholiad yn eu galluogi i’w gryfhau.
Yn ôl yr SNP, byddai’r grym i newid isafswm cyflog yn eu galluogi i godi’r gyfradd o £6.50 yr awr yn unol â chwyddiant yn y tymor byr, a’u nod yn y tymor hir fyddai ei godi i lefel y ‘cyflog byw’ o £7.85.
Mae disgwyl i’w maniffesto gynnwys hefyd ymrwymiad i drosglwyddo treth gorfforaethol i’r Alban, a mwy o bwerau dros fudd-daliadau lles.
Er y bydd y maniffesto’n ail-ddatgan cred yr SNP mewn annibyniaeth, ni fydd yn cynnwys ymrwymiad am refferendwm arall.