Y Pab Ffransis (Llun: PA)
Mae’r Pab Ffransis wedi apelio am gymod rhwng Eglwys Rufain a’r eglwysi Uniongred ar ddiwedd ei ymweliad â Thwrci.
Fe fu’n arwain gwasanaeth ar y cyd ag arweinydd eglwysi Uniongred y byd, y Patriarch Bartholomew I, yn eglwys Uniongred San Sior yn Istanbul heddiw.
Fe wnaeth yr eglwysi Catholig ac Uniongred wahanu yn 1054 ar sail gwahaniaethau barn ar statws y Pab fel pennaf awdurdod yr eglwys.
Ar ddiwedd cyfarfod gweddi ar y cyd neithiwr, plygodd y Pab Ffransis ei ben i Bartholomew, gan ofyn am ei fendith “i mi ac i eglwys Rufain”.
Roedd yr arwydd anghyffredin hwn o barch y Pab at bartriarch Uniongred yn pwysleisio’i obaith o gyfannu’r rhwyg.
Treftadaeth gyfoethog
Yn ei anerchiad heddiw, sy’n ddydd gŵyl pwysig i’r Eglwys Uniongred, pwysleisiodd y Pab na fyddai undod yn golygu i’r eglwysi aberthu eu treftadaeth gyfoethog na bod yn un yn mynd yn ddarostyngedig i’r llall.
Gan ategu’r un neges, cyfeiriodd Bartholomew at y ffaith fod Cristnogion yn cael eu herlid ledled y Dwyrain Canol waeth beth oedd eu henwad.
“Nid yw erlidwyr modern Cristnogaeth yn gofyn i ba eglwys y mae eu dioddefwyr yn perthyn,” meddai.
“Yn anffodus, mae’r undod yr ydym yn ei drafod eisoes yn digwydd mewn rhai rhannau o’r byd trwy waed merthyron.”