Yr heddlu wedi cau rhan o Brynmill Crescent yn Abertawe (Llun: Benjamin Wright/Gwifren PA)
Mae dyn wedi marw a dynes wedi cael ei hanafu’n ddifrifol ar ôl cael eu taro gan gar heb yrrwr yn rowlio i lawr allt yn Abertawe.

Cafodd yr heddlu eu galw i lôn gefn gerllaw Brynmill Crescent yn y ddinas tua 9.20 y bore yma.

“Yr wybodaeth a gawsom i ddechrau oedd bod cerbyd wedi rowlio i lawr stryd a bod dyn a dynes yn gaeth oddi tano,” meddai llefarydd ar ran Heddlu De Cymru.

Llwyddodd dau o griwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i rhyddau’r ddau oddi tan y cerbyd funudau’n ddiweddarach.

Cafodd y ddynes ei chludo i’r ysbyty mewn ambiwlans awyr, ond roedd y dyn wedi dioddef anafiadau angheuol.

Mae ymchwiliadau’r heddlu a’r gwasanaethau brys yn parhau.

Dywedodd y cynghorydd lleol dros ardal Brynmill, Peter May, fod y ddamwain wedi bod yn sioc fawr iddo.

“Mae’n ymddangos bod y cerbyd wedi rhedeg i lawr allt o ffordd gefn ger Brynmill Crescent,” meddai.

“Mae pobl yn y stryd yn amlwg wedi dychryn yn arw at yr hyn sydd wedi digwydd.

“Mae llawer o ansicrwydd ynghylch a oedd y dyn a fu farw yn rhywun yr oedden ni’n ei adnabod.”