Roedd Ahmed Mohammadi yn un o ffrindiau Nasser Muthana a ymddangosodd yn y fideo yma gan Isis
Llwyddodd dyn o Gaerdydd i gipio ei fab o grafangau gwrthryfelwyr Isis yn Syria yn gynharach eleni.

Y gred yw bod y mab 19 oed, Ahmed Mohammadi, wedi troi’n jihadi ac yn ymladd gydag eithafwyr Isis yno.

Roedd yn ffrindiau gyda dau jihadi arall o Gaerdydd, Reyaad Khan a Nasser Muthana a oedd wedi ymddangos mewn fideo propaganda Isis ym mis Mehefin yn galw ar Fwslimiaid Prydain i ymuno â nhw ar faes y gad.

Yn ôl adroddiad yn y Sunday Times heddiw, teithiodd y tad, Karim Mohammadi, o’i gartref yng Nghaerdydd i Dwrci, lle cafodd help arweinwyr cymunedol i groesi’r ffin i Syria.

Roedd Karim Mohammadi, sydd o dras Cwrdaidd ac Iracaidd, wedi ceisio help gan ei gymuned yng Nghaerdydd a oedd â chysylltiadau yn Nhwrci a Syria a gafodd hyd i’w fab.

Y cyntaf i lwyddo

Er bod rhieni eraill wedi mentro ar deithiau peryglus i Syria i chwilio am eu plant, y gred yw mai Karim Mohammadi yw’r rhiant cyntaf o Brydain i wneud hynny’n llwyddiannus.

Mae Ahmed Mohammadi, sydd bellach yn astudio peirianneg sifil, ymysg 300 o bobl o Brydain sydd wedi dychwelyd i Brydain o Syria ac Irac.

Pan gyrhaeddodd yn ôl i Brydain ym mis Gorffennaf, cafodd ei arestio o dan y Ddeddf Derfysgaeth, ond cafodd ei ryddhau’n ddi-gyhuddiad yr un diwrnod.

Cafodd ei gyfeirio wedyn at raglen gwrth-radicaleiddio y llywodraeth, Channel.

Roedd ei dad wedi gwadu iddo ymladd yn Syria, ac mae’r gwasanaethau cudd wedi barnu nad yw’n unrhyw fygythiad i ddiogelwch.