Mae arweinwyr cynghorau yn Lloegr wedi dod at ei gilydd i bwyso am fwy o rym.

Mewn llythyr ym mhapur newydd yr Observer, mae arweinwyr 119 o gynghorau yn rhybuddio na fydd pleidleiswyr yn Lloegr yn derbyn mwy o ddatganoli i’r Alban oni fydd ailddosbarthu grym yn digwydd o fewn Lloegr hefyd.

Mae’r cyngorau hyn yn  65 sy’n cael eu rheoli gan Lafur, 40 gan y Ceidwadwyr a 10 gan y Democratiaid Rhyddfrydol.

Maen nhw’n galw ar y Canghellor George Osborne i ddefnyddio ei Ddatganiad Hydref ddydd Mercher i gyhoeddi “setliad newydd i Loegr”, sy’n datganoli grym o San Steffan ac yn “rhannu trethi a gwariant yn deg ledled y Deyrnas Unedig”.

“Yn gynharach yr wythnos yma, fe waeth Comisiwn Smith (ar bwerau newydd i’r Alban) ddatgan bargen well i’r Alban … Tro Lloegr yw hi bellach,” medd yr arweinwyr yn eu llythyr.

Dywedodd llefarydd y Blaid Lafur ar gymunedau, Hilary Benn, fod datganoli o fewn Lloegr yn anochel bellach.

“Nid rhywbeth i’r Alban yn unig yw datganoli bellach,” meddai. “Mae llanw bellach yn llifo ledled Lloegr o blaid mwy o rym yn lleol.

“Os oes arnom eisiau cael yr economi i symud ym mhob rhan o’n gwlad, yna mae angen inni roi mwy o rym i gymunedau lleol i lywio eu dyfodol eu hunain.”