Mae dyn o Dde Affrica a’i ddau o blant ymhlith pedwar o bobl sydd wedi cael eu lladd mewn ymosodiad gan y Taliban ar westy yn Kabul, prifddinas Afghanistan.

Yn ôl heddlu’r wlad, roedd yn bennaeth grwp elusennol rhyngwladol, ond nid yw’r mudiad wedi cael ei enwi. Roedd y llall a gafodd ei ladd yn dod o Afghanistan.

Ar ôl ymosod ar yr adeilad fe wnaeth un o’r tri gwrthryfelwr danio ffrwydron ei grys hunan-fomio, a chafodd dau arall eu saethu gan yr heddlu.

Wrth hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad, dywedodd y Taliban iddyn nhw dargedu ‘canolfan genhadol gudd’.

Dyma’r achos diweddaraf o gyfres o ymosodiadau cyson gan y Taliban dros y dyddiau diwethaf.