Canghellor y Trysorlys, George Osborne (Llun: Gwifren PA)
Mae Canghellor y Trysorlys, George Osborne, ar fin addo swm o £2 biliwn ychwanegol at y Gwasanaeth Iechyd ledled y Deyrnas Unedig.
Yn ei Ddatganiad Hydref ddydd Mercher mae disgwyl iddo ddweud ei fod yn gallu gwneud hyn oherwydd bod yr economi’n tyfu, a bod y Llywodraeth wedi cael trefn ar wario cyhoeddus.
Fe fydd yr arian ychwanegol ar gyfer prynu gwasanaethau a chyfleusterau newydd ac i helpu gwneud y Gwasanaeth Iechyd yn fwy effeithiol i drethdalwyr a chleifion.
Mae disgwyl i’r Canghellor ddweud ddydd Mercher:
“Allwch chi ddim cael Gwasanaeth Iechyd cryf heb economi gref i dalu amdano. Os nad oes gennych gynllun hirdymor ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd, does gennych chi ddim cynllun ar gyfer dyfodol y Gwasanaeth Iechyd.
“Mae gennym y naill a’r llall. Y rheswm y gallwn wneud mwy dros y Gwasanaeth Iechyd yw oherwydd bod ein economi ni’n tyfu a’n bod ni wedi cadw rheolaeth dynn ar y cyllid. Gallaf gadarnhau y byddwn yn buddsoddi £2 biliwn ychwanegol y flwyddyn nesaf yn rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd, ledled y Deyrnas Unedig.
“Bydd hyn yn help gwaith ein nyrsys, meddygon a staff eraill y Gwasanaeth Iechyd o ddydd i ddydd; ond mae hefyd yn flaendal ar ddyfodol y Gwasanaeth Iechyd.”