Cymru 12–6 De Affrica

Wedi hen ymaros mae Cymru wedi curo un o gewri hemisffer y de. Roedd cicio cywir Leigh Halfpenny’n ddigon i sicrhau buddugoliaeth yn erbyn De Affrica yn Stadiwm y Mileniwm brynhawn Sadwrn.

Dechreuodd y gêm yn dda i’r Cymry wrth i Halfpenny drosi cic gosb wedi dim ond pedwar munud.

Roedd De Affrica yn gyfartal wedi deg munud o chwarae wedi i Pat Lambie ymateb gyda thri phwynt i’r ymwelwyr.

Felly yr arhosodd hi tan hanner amser er gwaethaf ymdrechion Cymru i groesi’r llinell gais, wnaeth y llinell bymtheg dyn chwedlonol ddim gweithio hyd yn oed!

Dechreuodd yr ail hanner, fel y cyntaf, gyda chic gosb yr un yn y deg munud cyntaf, chwe phwynt yr un gyda hanner awr i fynd.

Roedd hi’n gêm gymharol agored ond roedd amddiffyn y ddau dîm yn drech na’r ymosod.

Rhaid oedd dibynnu ar gicio Halfpenny felly ac roedd dwy gic sydyn toc cyn yr awr yn ddigon i’w rhoi chwe phwynt ar y blaen.

Treuliodd Cornal Hendricks ddeg munud yn y gell gosb yn dilyn cerdyn melyn braidd yn hallt ac fe lwyddodd amddiffyn y Cochion i ddal eu gafael.

.

Cymru

Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 4’, 48’, 53’, 57’

.

De Affrica

Ciciau Cosb: Pat Lambie 10’, 51’

Cerdyn Melyn: Cornal Hendricks 64’