Gleision Caerdydd 36–25 Treviso

Llwyddodd y Gleision i gofnodi dim ond eu hail fuddugoliaeth o’r tymor yn y Guinness Pro12 trwy drechu Treviso ar BarcParc yr Arfau nos Wener.

Roedd y tîm cartref ar ei hôl hi ar hanner amser ond fe ddaethant yn ôl i sicrhau buddugoliaeth a phwynt bonws yn yr ail diwedd.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd y gêm yn wael i’r Gleision wrth i Joe Carlisle drosi tri phwynt cyntaf y noson i Treviso wedi i’r blaenasgellwr cartref, Macauley Cook, gael ei anfon i’r gell gosb.

Ond er bod y Cymry i lawr i bedwar dyn ar ddeg, hwy sgoriodd gais cyntaf y gêm pan diriodd Lloyd Williams yn fuan wedyn. Twyllodd y mewnwr amddiffyn yr Eidalwyr gyda ffug bas cyn ymestyn at y llinell i sgorio, 7-3 wedi trosiad Gareth Anscombe.

Y Gleision oedd yn rheoli’r gêm wedi hynny ond roeddynt ar ei hôl hi yn dilyn cais unigol da gan Carlisle. Curodd y maswr y llinell amddiffynnol gyda chic a chwrs daclus cyn sgorio a throsi’r cais.

Roedd y Gleision yn ôl ar y blaen ddeuddeg munud cyn yr egwyl wedi i’r Archentwr, Joaquin Tuculet, groesi am gais yn ei gêm gyntaf dros y clwb. Tarodd y cefnwr y llinell ar wîb gan hyrddio’i hun drosodd.

Treviso, serch hynny, oedd ar y blaen ar hanner amser wedi i Carlisle lwyddo gyda chic gosb arall, 12-13 ar yr egwyl.

Ail Hanner

Daeth Gareth Davies i’r cae yn lle Anscombe fel maswr i’r Gleision yn yr ail hanner a’i gic gosb ef roddodd ei dîm yn ôl ar y blaen ar ddechrau’r ail gyfnod.

Agorodd y Gleision fantais dda wedi hynny gyda dau gais sydyn. Croesodd Richard Smith yn y gornel yn dilyn gwaith da gan Gavin Evans cyn i Kristian Dacey sicrhau’r pwynt bonws diolch i symudiad yn syth o’r cae ymarfer.

Gwnaeth Treviso gêm ohoni hyd yn oed wedyn ac roeddynt yn ôl o fewn pedwar pwynt gyda deg munud i fynd yn dilyn dau gais gan yr eilydd, Francesco Minto.

Roedd angen cais Rory Watts-Jones felly wyth munud o’r diwedd i dawelu’r nerfau, 36-25 y sgôr terfynol.

Mae’r Gleision yn aros yn wythfed yn nhabl y Pro12 er gwaethaf y fuddugoliaeth.

.

Gleision

Ceisiau: Lloyd Williams 11’, Joaquin Tuculet 28’, Richard Smith 52’ Kristian Dacey 57’, Rory Watts-Jones 72’

Trosiadau: Gareth Anscombe 12’, Gareth Davies 53’, 59’, 72’

Cic Gosb: Gareth Davies 48’

Cerdyn Melyn: Macauley Cook 8’

.

Treviso

Ceisiau: Joe Carlisle 22’, Francesco Minto 60’, 66’

Trosiadau: Joe Carlisle 23’, 61’

Ciciau Cosb: Joe Carlisle 8’, 36’

Cerdyn Melyn: Davide Giazzon 70’