Fe fydd angen i Abertawe geisio manteisio ar y gefnogaeth gartref er mwyn curo Crystal Palace fory, yn ôl eu rheolwr Garry Monk.
Roedd yr Elyrch yn anlwcus i beidio â chipio pwynt yn erbyn Man City yr wythnos diwethaf, gan golli o 2-1.
Ond fe lwyddon nhw i drechu Arsenal 2-1 y tro diwethaf iddyn nhw chwarae yn Stadiwm y Liberty pythefnos yn ôl, er eu bod nhw wedi mynd gôl ar ei hôl hi.
Ac mae Monk yn credu bod y dorf yn gwneud gwahaniaeth mawr.
“Pan aethon ni gôl ar ei hôl hi, wnaeth y dorf ddim stopio. Roedden nhw’n swnllyd ac fe helpodd hynny ni,” meddai rheolwr Abertawe.
“Fe fydd hynny’n allweddol yn yr wythnosau i ddod.”
Palace yn disgleirio
Dyw Crystal Palace ddim wedi bod yn ffôl yn ddiweddar chwaith, a’r wythnos diwethaf fe lwyddon nhw i guro Lerpwl 3-1 gartref gyda’r Cymro Joe Ledley yn sgorio eu hail.
Mae’n debygol mai croeso digon oeraidd gaiff Ledley gan gefnogwyr Abertawe pan fydd yn camu i’r maes dydd Sadwrn, ac yntau yn gyn-chwaraewr Caerdydd.
Ond fe allai Abertawe godi i’r pumed safle yn y gynghrair os ydyn nhw’n ennill fory.
Dyw Federico Fernandez dal ddim wedi gwella o anaf i’w goes, gan olygu mai Ashley Williams a Kyle Bartley sydd yn debygol o ddechrau yng nghanol yr amddiffyn unwaith eto i’r Elyrch.
Mae gan Crystal Palace ambell i chwaraewr yn absennol oherwydd anafiadau hefyd, gan gynnwys yr amddiffynwyr Damien Delaney ac Adrian Mariappa.