Fe fydd Caerdydd yn gobeithio ennill oddi cartref am y tro cyntaf y tymor yma wrth iddyn nhw deithio i Watford y penwythnos hwn.

Mae’r Adar Gleision yn 12fed yn y Bencampwriaeth ar hyn o bryd, pedwar pwynt i ffwrdd o safleoedd y gemau ail gyfle, ac mae Watford tri phwynt o’u blaen nhw yn seithfed.

Ni fydd y cefnwr Bruno Manga ar gael i Gaerdydd wedi i’r rheolwr Russell Slade gadarnhau fod ganddo broblem â chyhyr yn ei goes.

Dywedodd ei fod yn disgwyl i weddill ei chwaraewyr fod yn holliach ar gyfer y gêm, fodd bynnag.

Ond un fydd yn annhebygol o fod yn y tîm yw’r amddiffynnwr Juan Cala, gafodd ei anfon i ymarfer gyda’r tîm ieuenctid yr wythnos hon – mae Slade eisoes wedi dweud ei fod yn disgwyl iddo adael ym mis Ionawr.

Anelu am y chwech uchaf

Mynnodd rheolwr Caerdydd y bydd ei dîm yn ennill oddi cartref yn hwyr neu’n hwyrach.

A dywedodd y bydd yn fodlon os yw’r clwb yn parhau i fod o fewn cyrhaeddiad y gemau ail gyfle yn y flwyddyn newydd.

“Rydyn ni yn y pac – does dim ond rhaid i chi edrych ar y tabl i wybod hynny,” meddai Slade.

“Dw i’n meddwl bod y Nadolig a mis Ionawr yn adeg dda i ddechrau rhoi’ch hun mewn safle i frwydro am y chwech uchaf.

“Dyna yw’n nod ni, dyw hynny ddim wedi newid ers y diwrnod cyntaf.”