Fe fydd y Gweilch yn gobeithio taro nôl yn erbyn Leinster y penwythnos yma, ar ôl colli eu gêm gyntaf yn y Pro12 y tymor hwn yn eu gêm ddiwethaf yn erbyn Ulster.

Pedwar newid sydd i dîm Steve Tandy gyda’r asgellwr Hanno Dirksen, y prop Marc Thomas, y clo Tyler Ardron a’r blaenasgellwr Joe Bearman i gyd yn hawlio lle.

Mae saith o chwaraewyr y rhanbarth yn parhau i fod ar ddyletswydd ryngwladol â Chymru, ac mae deuddeg chwaraewr dal yn derbyn triniaeth am anafiadau hefyd.

Bois Iwerddon nôl

Bydd y Gweilch yn gobeithio aros ar frig y Pro12 gyda buddugoliaeth yn erbyn Leinster, sydd yn bumed ar hyn o bryd.

Ond mae’r rheolwr yn disgwyl gêm anodd, yn enwedig gan nifer o chwaraewyr rhyngwladol Leinster yn dychwelyd gan nad oes gêm gan Iwerddon y penwythnos hwn.

“Fe fydd angen i ni ddangos ein cymeriad o’r chwib cyntaf nes y diwedd,” meddai Steve Tandy.

“Mae’n rhaid i ni fynd i un o’r llefydd anoddaf yn Ewrop heb rhai o’n prif chwaraewyr ni, tra bod posibilrwydd y bydd ganddyn nhw eu holl chwaraewyr Iwerddon yn ôl ar ôl hydref gwych iddyn nhw.

“Mae gennym ni anafiadau hefyd, ac felly fe allwch chi weld maint y sialens sydd yn ein hwynebu.”

Tîm y Gweilch: Dan Evans, Aisea Natoga, Andrew Bishop, Hanno Dirksen, Tom Grabham, Sam Davies, Martin Roberts; Marc Thomas, Sam Parry, Dmitri Arhip, Lloyd Peers (capt), Tyler Ardron, Joe Bearman, Sam Lewis, Dan Baker.

Eilyddion: Scott Otten, Gareth Thomas, Cai Griffiths, Rynier Bernardo, Ieuan Jones, Tom Habberfield, Josh Matavesi, Dafydd Howells.