Tom Prydie
Fe fydd asgellwr Cymru Tom Prydie yn dychwelyd i dîm y Dreigiau ar gyfer eu gornest yn erbyn Glasgow ddydd Sul – gêm fydd yn fyw am 4.00yp ar
Clwb.

Dim ond dau newid sydd i dîm Lyn Jones o’r pymtheg gollodd yn erbyn Munster y penwythnos diwethaf, gyda’r asgellwr Matthew Pewtner hefyd yn ennill ei le.

Mae’r cefnwr Geraint Rhys Jones, y canolwyr Ross Wardle ac Ashley Smith, a’r haneri Dorian Jones a Richie Rees yn cadw’u lle yn y tîm.

Does dim newid o gwbl ymysg y blaenwyr, ond mae pump newid ar y fainc gyda’r asgellwr Hallam Amos a’r clo Andrew Coombs ymysg yr eilyddion.

Dim ond un gêm gynghrair y mae’r Dreigiau wedi ennill eleni, tra bod Glasgow yn bedwerydd yn nhabl y Pro12 ar ôl ennill chwech o’u wyth gêm nhw.

Tîm y Dreigiau: Geraint Rhys Jones, Tom Prydie, Ross Wardle, Ashley Smith, Matthew Pewtner, Dorian Jones, Richie Rees; Brok Harris, Elliot Dee, Dan Way, Cory Hill, Rynard Landman (capt), James Thomas, Nic Cudd, Lewis Evans.

Eilyddion: T. Rhys Thomas, Phil Price, Lloyd Fairbrother, Andrew Coombs, James Benjamin, Jonathan Evans, Jason Tovey, Hallam Amos.