Mae o leiaf 11 o filwyr Afghanistan a mwy na 20 o wrthryfelwyr y Taliban wedi cael eu lladd mewn dau ymosodiad yn nhalaith Helmand yn ne’r wlad.

Cafodd chwech o’r milwyr eu lladd yn y gwersyll a arferai gael ei alw’n Camp Bastion tan i filwyr Prydain ei adael y mis diwethaf.

Cafodd pum milwr arall eu lladd mewn ymosodiad gan hunan-fomwyr ar wersyll arall yn ardal Sangin.

Mae’r Taliban wedi hawlio cyfrifoldeb am y ddau ymosodiad.

Mae adroddiadau hefyd ymosodiad ar westy gerllaw’r senedd yn y brifddinas Kabul, lle mae Ewropeaidd sy’n gweithio i lywodraeth y wlad yn aros.