Mae saith o blismyn o heddlu Llundain wedi cael eu harestio ar ôl mynd i helynt ar wyliau yn Lithwania.

Mae papur newydd y Sun wedi cyhoeddi lluniau o’r dynion a golwg waedlyd arnyn nhw fel pe baen nhw wedi bod yn ymladd, ac yn eu dangos mewn cyffiau yn cael eu gwthio i gerbydau heddlu yn y brifddinas Vilnius.

Wrth gadarnhau’r stori, dywedodd llefarydd ar ran Scotland Yard:

“Mae’r Gyfarwyddiaeth Safonau Proffesiynol yn gwybod bod saith cwnstabl o’r adran diriogaethol wedi cael eu harestio ddydd Sadwrn 22 Tachwedd ar wyliau yn Vilnius, Lithwania.

“Mae ymchwiliadau’n parhau a byddwn yn cydweithio ag awdurdodau Lithwania.”

Yn ôl y Sun, mae’r dynion wedi cael eu rhyddhau ar ôl talu mechnïaeth o tua £1,000, ac fe fydd yn rhaid iddyn nhw ddychwelyd i Lithwania os byddan nhw’n cael eu cyhuddo.

Dywedodd Scotland Yard nad yw’r plismyn wedi cael eu gwahardd o’u gwaith, ond y byddan nhw’n ailystyried y sefyllfa os caiff y dynion eu cyhuddo.