Mae’r cyn-weinidog Torïaidd David Mellor wedi ymddiheuro’n gyhoeddus am ei ymddygiad mewn tacsi yn Llundain yr wythnos ddiwethaf.

Wrth ddadlau gyda’r gyrrwr ar y ffordd yn ôl o seremoni ym Mhalas Buckingham roedd wedi ei regi a’i alw’n “sweaty, stupid little shit”.

Ar y rhaglen radio y mae’n ei chyflwyno ar orsaf LBC y bore yma, dywedodd na allai amddiffyn yr hyn a wnaeth.

Dywedodd ei bod yn wirioneddol ddrwg ganddo, ac addawodd wneud “cyfraniad sylweddol” at apêl elusen Nadolig Cymdeithas Gyrwyr Tacsi  Trwyddedig Llundain.

“Roedd gen i achos, ond fe daflais y cyfan i ffwrdd wrth siarad fel y gwnes i, a dw i’n ymddiheuro’n arbennig i chi, ein gwrandawyr, am drethu eich amynedd a pheryglu fy hygrededd gyda chi drwy siarad fel hyn,” meddai.

“Dw i wedi penderfynu’n bendant mai dŵr fydd hi i mi yn y cinio dathlu nesaf.”