Mae rhan o draffordd yr A1 yng ngogledd Lloegr wedi cau ar ôl ffrwydrad yn oriau mân y bore.

Cafodd yr heddlu eu galw am 3.00 o’r gloch y bore ar ôl adroddiadau o ffrwydrad gerllaw barics milwrol Catraeth yng ngogledd Swydd Efrog.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Efrog eu bod yn ymchwilio i’r digwyddiad, ond nad ydyn nhw’n gwybod eto pa mor agos i’r barics oedd y ffrwydrad.

Garsiwn Catraeth yw sefydliad hyfforddi mwyaf y fyddin, lle mae dros 13,000 o bobl yn gweithio.

Mae disgwyl i’r darn chwe milltir o’r draffordd, a’r mynedfeydd o’r A1 i dref Catraeth, aros ar gau tan 3 o’r gloch y prynhawn yma.