Angela Merkel yn dangos y ffordd i David Cameron? (Llun: PA)
Mae lle i gredu bod y Prif Weinidog David Cameron wedi cymedroli araith ganddo ar fewnfudo ddoe ar ôl pwysau gan Ganghellor yr Almaen, Angela Merkel.

Roedd disgwyl iddo gyhoeddi cynllun i osod uchafswm ar y nifer o fewnfudwyr o’r Undeb Ewropeaidd sy’n dod i mewn i Brydain.

Doedd dim sôn am hyn yn ei araith ar fewnfudo yn Swydd Stafford ddoe, a oedd wedi cael ei disgrifio fel un o’i areithiau pwysicaf fel Prif Weinidog.

Mae Anglea Merkel wedi rhybuddio’n gyson y byddai’n gwrthwynebu cyfyngiadau o’r fath.

Yr hyn a wnaeth David Cameron oedd cyhoeddi y byddai’n amddifadu hawliau mewnfudwyr o’r Undeb Ewropeaidd rhag cael rhentu tai cymdeithasol am bedair blynedd ac na fyddai mewnfudwyr di-waith yn cael aros mwy na chwe mis.

Fe fyddai’n rhaid cael newid yng nghytundebau’r Undeb Ewropeaidd cyn y gallai gyflwyno newidiadau o’r fath, ond dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn fyddiog y gallai gael cytundeb gwledydd eraill i hyn.

‘Dim digon pell’

Dywedodd yr AS gwrth-Ewropeaidd Bill Cash nad oedd cynlluniau’r Prif Weinidog yn mynd yn ddigon pell, a dywedodd y cyn-ysgrifennydd Amddiffyn Liam Fox na ddylai’r drafodaeth ar yr Undeb Ewropeaidd gael ei chyfyngu i fewnfudo yn unig.

“Mae’r ewro ac ansefydlogrwydd parth yr ewro yn peri bygythiad economaidd i’r Deyrnas Unedig,” meddai.

Wrth ymateb i’r araith, dywedodd Angela Merkel:

“Mae’n bwysig fod Cameron yn ymrwymo i’r egwyddor ganolog o symudiad rhydd a’r farchnad sengl sydd wedi’i angori yng nghytundebau’r Undeb Ewropeaidd.”