Cyn-arlywydd yr Aifft, Hosni Mubarak
Mae llys yn yr Aifft wedi gollwng cyhuddiadau yn erbyn y cyn-arlywydd Hosni Mubarak o fod yn gyfrifol am ladd protestwyr yn y gwrthryfel yng ngwanwyn 2011.
Mae’r cyn-arlywydd 86 oed wedi ei gael yn ddi-euog hefyd o gyhuddiadau o lygredd.
Roedd wedi cael ei gollfarnu a’i ddedfrydu i garchar am oes yn 2012, ond cafodd y ddedfryd ei gwrthdroi ar apêl y llynedd.
Mae’r ddedfryd heddiw’n ddiwedd ar ail dreial yn ei erbyn ef a’i ddau fab, ei bennaeth dioglewch, chwe comander milwrol a dyn busnes sy’n gyfaill iddo. Cafodd bron i 900 o brotestwyr eu lladd yn y chwyldro 18 diwrnod a ddaeth â theyrnasiad Mubarak i ben.
Dywedodd y barnwr Mahmoud al-Rashidi nad oedd gollwng y cyhuddiadau’n gyfystyr â gwadu “llygredd” a “gwendid” blynyddoedd olaf teyrnasiad 29 mlynedd Mubarak, a dywedodd fod cyfiawnhad i amcanion y chwyldro, sef rhyddid, bara a chyfiawnder cymdeithasol.